Archif: Medi, 2017
Cyfle cyffrous!
Pleser gan Wasanaeth Cerdd Conwy yw cyhoeddi ei fod wedi cael arian i gynnal prosiect i ddatblygu chwaraewyr Chwythbrennau.
Bydd y prosiect ensemble project yn darparu cyfle i ddisgyblion chwarae ochr yn ochr â chwaraewyr ifanc gorau’r sir, cael hyfforddiant gan yr athrawon gorau, gwella sgiliau mewn modd cyffrous, sy’n hwyl a chymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus.
-
Llongyfarchiadau
Bostio: 14 Med, 2017
Mae gwersi cerdd mewn ysgolion yn dechrau eto’r wythnos hon a bydd Canolfannau Cerdd yn agor yn ystod wythnos 18 Medi. Croeso yn ôl i’n holl ddisgyblion a llongyfarchiadau i ddisgyblion sydd wedi cael arholiadau Gradd ABRSM yn ystod tymor yr haf.
-
GWASANAETH CELFYDDYDAU MYNEGIANNOL 2017/18
Bostio: 08 Med, 2017
Dyma ni eto – gyda mwy o weithgareddau ysbrydoledig yn cefnogi plant a phobl ifanc i ddarganfod y celfyddydau!
Mae’r gwahoddiadau i’r Gwyliau Dawns Creadigol ar eu ffordd, mae’r Pigtown Theatre Company yn cynnig prosiectau newydd sbon, mae datblygiadau cyffrous ar y ffordd o ran cefnogaeth cwricwlwm cerdd ac mae cynlluniau preswyl artistiaid yn cael eu trefnu.
Bu i bron i bob ysgol yn y sir gymryd rhan y llynedd ac yn 2017/8 rydym yn edrych ymlaen at gynnig mwy o gyfleoedd hyfforddi i athrawon a Phencampwyr Celfyddydau ysgolion trwy EDAU, y Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg rhanbarthol.
Ymgeisiwch am gefnogaeth ariannol gan Gronfa Profi’r Celfyddydau a dathlu’r celfyddydau ochr yn ochr â 14 Ysgol Greadigol Arweiniol Conwy.
Cysylltwch i wybod mwy 01492 575086, celfacherdd@conwy.gov.uk