Archif: Mehefin, 2016
Cyfle cyffrous!
Pleser gan Wasanaeth Cerdd Conwy yw cyhoeddi ei fod wedi cael arian i gynnal prosiect i ddatblygu chwaraewyr Chwythbrennau.
Bydd y prosiect ensemble project yn darparu cyfle i ddisgyblion chwarae ochr yn ochr â chwaraewyr ifanc gorau’r sir, cael hyfforddiant gan yr athrawon gorau, gwella sgiliau mewn modd cyffrous, sy’n hwyl a chymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus.
-
Gitarwyr Glanwydden
Bostio: 29 Meh, 2016
Yn syth ar ôl chwarae i’r ysgol gyfan yr wythnos ddiwethaf, mae bechgyn a merched grŵp gitâr Ysgol Glanwydden yn hapus iawn!
-
CONWY CÂN SING!
Bostio: 27 Meh, 2016
Wel, am ddiwrnod! Bu i dros 1,000 o ddisgyblion ac athrawon o 20 ysgol ganu mewn dathliad. Dyma lun o Mason sydd mor hoff o’r gân ‘Sing Out Loud!’ fel y cafodd ei wahodd i fyny a sefyll yng nghanol llwyfan mawr Venue Cymru a’i chanu ar ei hyd i gynulleidfa o 999. Safodd pawb ar eu traed i’w gymeradwyo ac roedd pawb yn llawn edmygedd!
Partneriaeth rhwng CânSing, Opera Cenedlaethol Cymru, Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru a GWASANAETH CELFYDDYDAU MYNEGIANNOL CONWY.
-
BAND YSGOL BOD ALAW!
Bostio: 24 Meh, 2016
Band Ysgol Bod Alaw gyda’u hathrawon Mr Hadyn Smith (gitâr), Mrs Sue Hughes (drymiau) a Mrs Lisa Butler (telyn).
-
GWEITHDAI CELF YN YSGOL CRAIG Y DON
Bostio: 17 Meh, 2016
Mae’r ddau ddosbarth blwyddyn 6 yn Ysgol Craig y Don wedi bod yn gweithio gyda’r arlunydd Wendy Couling i gynhyrchu gwaith celf 3-D hyfryd yn seiliedig ar chwedl Gwenllian Ferch Llewelyn. Mae chwe phanel mawr yn adrodd y stori a byddant yn cael eu harddangos yn barhaol yn neuadd yr ysgol.
-
Llongyfarchiadau!
Bostio: 15 Meh, 2016
Llongyfarchiadau mawr i gerddorion ifanc Conwy a gyrhaeddodd gystadlaethau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yr wythnos ddiwethaf….
Balch iawn!
-
Gweithdai Dawns Drysau Hud mewn Ysgolion
Bostio: 10 Meh, 2016
Cymerodd disgyblion y Cyfnod Sylfaen o ysgolion Nant y Groes ac T Gwynn Jones ran mewn gweithdai theatr dawns cyffrous gyda Kim ac Alex o Bombastic Dance Theatre and New Media Company. Ysbrydolodd mynd ar antur i fydoedd newydd rhyfedd trwy gyfres o Ddrysau Hud ddisgyblion i ddysgu’n greadigol, ymateb yn llawn dychymyg a datblygu hyder a sgiliau perfformio.
Cafodd y sioe yn Theatr Colwyn gefnogaeth dda ac rydym yn edrych ymlaen at wahodd y cwmni yn ôl i Gonwy yn y dyfodol.