Archif: Ebrill, 2016
Cyfle cyffrous!
Pleser gan Wasanaeth Cerdd Conwy yw cyhoeddi ei fod wedi cael arian i gynnal prosiect i ddatblygu chwaraewyr Chwythbrennau.
Bydd y prosiect ensemble project yn darparu cyfle i ddisgyblion chwarae ochr yn ochr â chwaraewyr ifanc gorau’r sir, cael hyfforddiant gan yr athrawon gorau, gwella sgiliau mewn modd cyffrous, sy’n hwyl a chymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus.
-
Ysgol Tudno – Ysgol Creadigol Arweiniol
Bostio: 28 Ebr, 2016
PLETHU RHWNG LLINELLAU arddangosfa gelf gan ddisgyblion Ysgol Tudno. Ebrill 30 a Mai 1 10-4 yn Ysgol Tudno, Llandudno.
-
LLWYDDIANNAU DIWEDDAR EIN CERDDORION IFANC
Bostio: 28 Ebr, 2016
(Llongyfarchiadau i diwtoriaid hefyd! )
-
Llongyfarchiadau!
Bostio: 15 Ebr, 2016
Llongyfarchiadau a dymuniadau da i ddisgyblion y Gwasanaeth Cerdd sydd eisoes yn enillwyr sirol a fydd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn y Fflint ym Mai.
Alys Bratch; Band Bod Alaw; Ben Oliver; Chloe Elliott; Christopher Sabisky; Deuawd Y Creuddyn; Ensemble Offerynnol Cerrigydrudion – Rhun Evans, Mared Evans, Brenig Wyn, Begw Williams, Steffan Davies, Eos Jones, Beca Roberts; Gwion Clarke; Hank Barber; Jamie Oliver; Kieran Ewnon; Lily Taylor; Macsen Rhys Williams; Morgan Haerr; Triawd Dyffryn Conwy.
-
GRACIE NOAKES YN CAEL GWOBR CERDD IEUENCTID REG MOON 2016
Bostio: 14 Ebr, 2016
Mae’n bleser gan Wasanaeth Cerdd Conwy gyhoeddi fod y clarinetydd Gracie Noakes wedi ennill y wobr ar gyfer y cerddor ifanc sydd wedi gwella fwyaf yn y flwyddyn agoriadol. Dechreuodd Gracie, sy’n 16 oed, ddysgu yn yr ysgol gynradd a bellach yn aelod o Gerddorfa Ieuenctid Conwy, Ensemble Chwythbrennau Conwy a Cherddorfa Chwythbrennau Symffonig y Bedair Sir. Mae’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Eirias ac yn cael ei haddysgu gan Rebecca Bateson, tiwtor y Gwasanaeth Cerdd. Da iawn Gracie!