Archif: Awst, 2015
Cyfle cyffrous!
Pleser gan Wasanaeth Cerdd Conwy yw cyhoeddi ei fod wedi cael arian i gynnal prosiect i ddatblygu chwaraewyr Chwythbrennau.
Bydd y prosiect ensemble project yn darparu cyfle i ddisgyblion chwarae ochr yn ochr â chwaraewyr ifanc gorau’r sir, cael hyfforddiant gan yr athrawon gorau, gwella sgiliau mewn modd cyffrous, sy’n hwyl a chymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus.
-
CERDDORFA IEUENCTID GOGLEDD CYMRU / NORTH WALES YOUTH ORCHESTRA
Bostio: 11 Aws, 2015
Ymunwch â Cherddorfa Ieuenctid Gogledd Cymru ar gyfer eu cyngherddau haf
BANGOR
Neuadd Pritchard-Jones
30/08/2015 7pmWRECSAM
Neuadd William Aston
31/08/2015 3pmA chefnogi cerddorion ifanc Conwy!
-
Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Bostio: 11 Aws, 2015
Ymunwch â Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru gyda’r cwmni gwadd arbennig Dawns Genedlaethol Ieuenctid yr Alban yn Clwyd Theatr Cymru, 29 Awst, 7.30pm
http://www.nyawperfformio.co.uk/index.php?mod=dancew
-
Mae Ensemble Staff Conwy wedi cael taith haf llwyddiannus arall!
Bostio: 04 Aws, 2015
Mae’r Ensemble, sy’n cynnwys 15 aelod o’r staff addysgu offerynnol (ac ambell i gyn ddisgybl!) wedi bod yn rhoi cyngherddau yn ysgolion cynradd Conwy am 17 mlynedd gyda’r nod o addysgu a diddanu. Aeth ein taith i 33 lleoliad, gan roi 34 cyngerdd i 38 ysgol mewn 12 diwrnod, gan deithio ledled y sir a chyrraedd tua 5,000 o blant!
Eleni, yn ogystal â’r hen ffefrynnau, roedd dau ddarn o brosiect Ten Pieces y BBC a oedd yn boblogaidd iawn ac roedd sŵn y plant yn cyd ganu i “All of Me” gan John Legend yn creu gwir awyrgylch cerddorol ymysg hwyl a sŵn gweddill y sioe.
Rhywbeth newydd eleni oedd ymweld ag ysgol fabanod Glan Gele. Roedd y plant a’r staff wrth eu boddau ac edrychwn ymlaen at fwy o gyngherddau yno yn y dyfodol!