Archif: Mehefin, 2015
Cyfle cyffrous!
Pleser gan Wasanaeth Cerdd Conwy yw cyhoeddi ei fod wedi cael arian i gynnal prosiect i ddatblygu chwaraewyr Chwythbrennau.
Bydd y prosiect ensemble project yn darparu cyfle i ddisgyblion chwarae ochr yn ochr â chwaraewyr ifanc gorau’r sir, cael hyfforddiant gan yr athrawon gorau, gwella sgiliau mewn modd cyffrous, sy’n hwyl a chymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus.
-
Ymlaen â’r Daith Ysgol!
Bostio: 29 Meh, 2015
Mae bron yn ddiwedd tymor yr haf ac yn amser unwaith yn rhagor i neuaddau ysgol atseinio i seiniau’r genhedlaeth ddiweddaraf o ddisgyblion Conwy’n canu “Ye Cannae kick your Granny off a Bus!”
Ers 17 mlynedd, mae staff Gwasanaethau Cerdd Conwy wedi difyrru ac addysgu (difyrru’n bennaf!) disgyblion Conwy gyda gwledd o gyngherddau yn teithio o amgylch ysgolion y sir; gan addysgu cenedlaethau o blant “Granny”, a difyrru aelodau o staff, rhieni, teidiau a neiniau dirifedi ac eraill hefyd. Mae’r gerddoriaeth yn newid wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, ond bydd rhai pethau’n aros yr un fath – pwy allai ddychmygu sioe heb y “Simpsons” er enghraifft?
Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn parhau i gael ei gefnogi gan Wasanaethu Addysg Conwy a rhoi cyfle i athrawon ddangos i’w disgyblion fod ganddynt dalentau helaeth cudd – gwylied yr “X Factor” ei hun, mae Ensemble Staff Conwy ar ei ffordd! -
Perfformiad yn y Castle Hotel!
Bostio: 12 Meh, 2015
Cafodd disgyblion gitâr y cyfle i berfformio yn y Castle Hotel yng Nghonwy yn ddiweddar. Cynhaliwyd y cyngerdd byr yn y llyfrgell, gan roi awyrgylch delfrydol i berfformwyr ar gyfer natur gyfeillgar gitâr acwstig a lle cyfeillgar i rieni ac eraill wrando ac ymlacio ynddo. Fe wnaethom fwynhau amrywiaeth eang o gerddoriaeth o’r Baróc i’r Blues gan edrych ymlaen at fwy o’r digwyddiadau hyn yn y dyfodol. Llongyfarchiadau i bawb!
-
Unawdwyr Conwy yng Nghystadlaethau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
Bostio: 03 Meh, 2015
Tair bloedd i dri disgybl o Gonwy a ddaeth i’r amlwg mewn cystadlaethau unawdau cerdd yr wythnos diwethaf.
Christopher Sabisky, 2il Unawd Chwythbrennau
Ellis Thomas, 1af Unawd Piano, 2il Unawd Feiolin
Sara Davies, 1af Unawd Canu
Hip, Hip, Hwre!